Rhif y Ddeiseb: P-05-1447

Teitl y ddeiseb: Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Geiriad y ddeiseb:  Mae’r gymuned leol ar ddeall bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cau’r Ganolfan Ymwelwyr yn Ynyslas ddiwedd y flwyddyn hon. Mae hyn yn digwydd heb unrhyw ymgynghori, dim darpariaeth arall ar gyfer amddiffyn amgen y warchodfa natur, a cholli swyddi lleol.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad a ddylai fod yn gwarchod ein bywyd gwyllt a’n cymunedau, yn hytrach na’u dinistrio.

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn Ynyslas yn hollbwysig o ran rheoli’r 400,000 o ymwelwyr y flwyddyn sy’n defnyddio’r safle. Mae bywyd gwyllt a chynefinoedd y warchodfa natur yn fregus, ac mae angen eu hamddiffyn rhag y nifer fawr yma o ymwelwyr, cerbydau a chŵn, os ydym am osgoi colli rhagor o fioamrywiaeth yng Nghymru.

Mae presenoldeb staff Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol y flwyddyn yn y warchodfa yn golygu bod yna rwystr naturiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol (cynnau tanau, tipio anghyfreithlon, mynediad i gerbydau) ac yr aed i’r afael yn gyflym ac yn effeithlon gydag unrhyw achosion o’r fath.

Mae’r ganolfan yn darparu gwybodaeth ac addysg i bob ymwelydd, er mwyn iddyn nhw ddeall pam fod y lle yn arbennig, a pha effaith y mae eu gweithredoedd yn ei gael arno. At hynny, mae’n fan cyswllt cymdeithasol i’r gymuned leol, ac yn fan lle mae byd natur yn hygyrch i’r rheini sydd â symudedd cyfyngedig.

Mae rheolaeth effeithiol ar ymwelwyr yn Ynyslas yn hanfodol er mwyn amddiffyn y Warchodfa Natur a’i bywyd gwyllt.

 

 


1.        Y cefndir

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rhedeg canolfan ymwelwyr Ynyslas, yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger y Borth, Ceredigion. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa sy’n rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am y warchodfa, toiledau, caffi a siop.

Roedd adroddiadau ym mis Rhagfyr 2023 fod CNC yn ystyried cau ei ganolfannau ymwelwyr yn Ynyslas, Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin. Dywedodd un o swyddogion CNC wrth y Cambrian News:

…we are having to look across all of our remit and critically review what we can and must continue to do, what we stop and what we slow…

Our visitor centres are part of this review, but no decision has yet been made on how they will operate in the future.

Over the coming months we’ll be drawing up options and recommendations for the future and the final decisions for 2024/25 will be made by our board before the end of March.

Wrth gyfeirio at ganolfannau ymwelwyr yng nghyfarfod bwrdd CNC ar 2 Chwefror 2024, dywedwyd:

Nid oedd cyllideb 2024/25 wedi’i chwblhau eto ac nid oedd y Bwrdd wedi cael cais i gymeradwyo unrhyw benderfyniadau ar ganolfannau ymwelwyr. Roedd gwybodaeth reoli yn cael ei chasglu ar gyfer penderfyniad erbyn diwedd mis Mawrth. Roedd yn bwysig osgoi cyfuno lefel y gwasanaethau a gallu’r cyhoedd i gael mynediad at dir. Byddai mynediad cyhoeddus i’r tir yn cael ei gynnal, ond pa fath o wasanaethau a ddarperir oedd dan ystyriaeth. Lle na allai CNC barhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny, byddai’n chwilio am eraill i ysgwyddo’r gwasanaethau hynny.

Ym mis Mawrth 2024, cafwyd adroddiad yn y Cambrian News fod cynrychiolwyr CNC wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus yn y Borth i drafod canolfan ymwelwyr Ynyslas. Dywedodd un o swyddogion CNC na fyddai’r ganolfan ymwelwyr yn cau ddiwedd mis Mawrth 2024, gan ddweud:

We are looking to keep things running for as long as we can, but it is difficult and we want to work with people to find a long term solution.

There is no secret plan, and no decisions have been made yet. But the reality is these visitor centres were built in a time of plenty, when we had funding we don’t have now.

Dywedodd y Cambrian News hefyd fod canolfan ymwelwyr Ynyslas yn gwneud colled o tua £50,000 y flwyddyn, a bod CNC yn awyddus i weithio gyda phobl a mentrau lleol a allai fod â diddordeb mewn rhedeg caffi a siop y ganolfan ymwelwyr.

Cyfarfu Bwrdd CNC ddiwethaf ar 23 Mai 2024. Er nad oedd cofnodion terfynol y cyfarfod hwnnw ar gael i’r cyhoedd adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, ymhlith yr eitemau a drafodwyd roedd Strategaeth Hamdden ddrafft CNC. Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnwys y datganiad hwn: “Erbyn 2030 bydd y Strategaeth wedi darparu’r cyfeiriad i, er enghraifft: Galluogi trydydd partïon i gamu i mewn a chyflawni gweithgareddau twristiaeth dwys fel beicio mynydd a chanolfannau ymwelwyr”.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae CNC yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae ei swyddogaethau’n cynnwys rheoli 7 y cant o dir Cymru (gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a 55 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol eraill), cynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol, a chynghori cyrff cyhoeddus. Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r rhan fwyaf o gyllid CNC drwy Gymorth Grant a grantiau eraill. Yn 2022/23, daeth 59 y cant o incwm CNC oddi wrth Lywodraeth Cymru, a chodwyd y gweddill drwy daliadau (17 y cant), incwm masnachol/incwm arall (21 y cant), a chyllid Ewropeaidd/allanol (2 y cant). Yn 2022/23, roedd cyfanswm ei wariant, sef £272m, yn fwy na’i incwm, sef £234m, sy’n awgrymu diffyg o £38m.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 2 Ionawr 2024, atebodd y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gwestiwn Mabon ap Gwynfor ynghylch y posibilrwydd o gau canolfannau ymwelwyr CNC, gan gynnwys Ynyslas, gan ddweud:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel pob gwasanaeth yma yng Nghymru, dan bwysau ariannol. Bydd dewisiadau anodd iddyn nhw wneud, fel rŷn ni wedi gwneud fel Llywodraeth dros y misoedd diwethaf, ond dwi’n siŵr pan fydd yr asiantaeth yn gwneud y penderfyniadau yna, byddan nhw’n gwrando ar y pwyntiau mae’r Aelod wedi gwneud a phethau eraill mae pobl leol eisiau cadw.

Ategodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, y safbwynt hwn yn ei ymateb i’r ddeiseb hon. Tynnodd sylw at y pwysau cyllidebol sydd ar CNC a’r flaenoriaeth y mae’n ei rhoi i gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol. O ran canolfannau ymwelwyr, dywedodd fod CNC yn ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol gan gynnwys darparu cyfleoedd i fusnesau lleol, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymdeithasol a chymunedol, ond mai Bwrdd CNC fyddai’n gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Aeth Clare Pilman, Prif Weithredwr CNC, i’r afael yn uniongyrchol â phryderon ynghylch cau canolfannau ymwelwyr yn ystod y sesiwn graffu flynyddol ar CNC gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ym mis Ionawr 2024. Dywedodd wrth y pwyllgor nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch eu cau, ond bod rhaid i CNC ystyried yr holl opsiynau. Yn ei adroddiad ym mis Mai 2024, awgrymodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, o ran canolfannau ymwelwyr, “y dylai CNC wneud popeth yn ei allu i sicrhau eu bod yn aros ar agor” ac argymhellodd y dylai CNC “adrodd i’r Pwyllgor hwn yn y chwe mis nesaf ar statws ei ganolfannau ymwelwyr”.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd  yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.